BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth Twf Cyflym 50 Cymru 2020

Mae’r prosiect blynyddol yn dathlu’r enghreifftiau gorau o entrepreneuriaeth yng Nghymru. Caiff gwobrau eu cyflwyno i’r cwmnïau sy’n tyfu gyflymaf ym mhob un o sectorau allweddol economi Cymru, yn ogystal â gwobrau unigol ar gyfer twf hirdymor cynaliadwy.

Mae prosiect Twf Cyflym 50 yn dibynnu ar gael gwybodaeth a cheisiadau wedi'u cwblhau gan gwmnïau sydd wedyn yn cael eu gwirio gan ddata Tŷ’r Cwmnïau neu drwy gyfrifyddion y cwmni.

Bydd y ceisiadau yn cael eu graddio yn seiliedig ar dwf canrannol refeniw rhwng 2017 a 2019.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 31 Gorffennaf 2020.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Twf Cyflym 50.

Edrychwch ar dudalennau Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru i gael cymorth ar gyfer manteisio i’r eithaf ar botensial eich busnes.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.