BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cysylltu â’ch digwyddiadau digidol eich Cynghorydd Acas

Bob blwyddyn, mae Acas yn cefnogi miliynau o gyflogwyr a gweithwyr yn y DU i wella cysylltiadau yn y gweithle.

Mae’r argyfwng Coronafeirws wedi arwain at sawl her i fusnesau a’u staff. Os ydych chi wedi parhau i weithredu neu wedi gorfod cau yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, bydd gweithio’n effeithiol gyda’ch pobl yn allweddol wrth symud ymlaen.

Mae Acas yn cynnal sioeau teithiol rhithwir am ddim a fydd yn rhoi syniadau i gyflogwyr er mwyn helpu’ch sefydliad i fynd i’r afael â heriau yn y gweithle yn sgil yr argyfwng coronafeirws. 

Byddwch yn cael cyfle i gysylltu â Chynghorwyr Acas lleol, dysgu am y gwasanaethau a’r canllawiau hanfodol y mae Acas yn eu darparu a rhyngweithio â busnesau eraill o bob cwr o’r rhanbarth.

Cynhelir y sioeau teithiol ar Zoom ar y dyddiadau canlynol:

  • 8 Gorffennaf 2020, y De  – 10am i 11am – cadwch eich lle yma
  • 21 Gorffennaf 2020, y Gorllewin – 10am i 11am – cadwch eich lle yma
  • 21 Medi 2020, y Gogledd – 10am i 11am – cadwch eich lle yma

Ewch i wefan ACAS am wybodaeth am reolau, hawliau ac arferion gweithle ar gyfer cyflogwyr a gweithwyr.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.