
Mae Her Pecynnu Plastig Cynaliadwy Clyfar Cronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU yn ceisio lleihau gwastraff plastig yn ddramatig erbyn 2025.
Mae gan Innovate UK, rhan o UK Research and Innovation, hyd at £37 miliwn o’r gronfa i’w fuddsoddi mewn prosiectau arddangos a phrosiectau cam-cynnar sy’n ymchwilio i ffyrdd o leihau, ailddefnyddio neu ailgylchu deunyddiau pecynnu plastig.
Ceir 3 cystadleuaeth sy’n anelu at gefnogi economi fwy cylchol ar gyfer deunyddiau pecynnu plastig yn y DU ac ariannu prosiectau sy’n helpu i gyrraedd targedau Ymrwymiad y DU ar Blastigion. Mae’r targedau’n cynnwys sicrhau bod 100% o ddeunyddiau pecynnu plastig yn rhai y gellir eu hailddefnyddio, eu hailgylchu neu eu compostio.
Mae’r cystadlaethau ar gyfer:
- prosiectau cyfnod cynnar; y dyddiad cau i geisiadau yw hanner dydd 1 Ebrill 2020
- prosiectau arddangos; y dyddiad cau i geisiadau yw hanner dydd ar 19 Chwefror 2020
- astudiaethau dichonolrwydd ar brosiectau arddangos; y dyddiad cau i geisiadau yw hanner dydd ar 19 Chwefror 2020
Dylai prosiectau weithio ar draws 1 neu fwy o themâu:
- arloesi o ran deunyddiau, er enghraifft deunyddiau polymer ailgylchadwy newydd, biopolymerau, ei gwneud yn haws defnyddio mwy o gynnwys wedi’i ailgylchu
- arloesi o ran dylunio, er enghraifft dylunio ar gyfer ailgylchu neu ailddefnyddio
- arloesi o ran technoleg neu brosesau, er enghraifft prosesau ailddefnyddio, casglu, didoli a gwahanu, ailgylchu mecanyddol, ailgylchu cemegol, treulio anaerobig
- arloesi o ran modelau busnes, er enghraifft systemau pecynnu amldro, dim pecynnu, newid ymddygiad
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.