BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Cymorth Ariannol Covid Brys gan gynnwys Busnesau sydd Newydd eu Sefydlu

“Ar ddiwedd mis Rhagfyr cyhoeddais ddatganiadau am y £120m o gymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau y mae Omicron yn effeithio arnynt, gallaf gadarnhau yn awr y bydd y cyllid hefyd ar gael i fusnesau sydd newydd eu sefydlu yn amodol ar fodloni'r meini prawf cymhwysedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen cefnogi'r rhai a ddechreuodd fusnes newydd yn ystod misoedd yr haf.

Bydd y cyllid yn cynnig achubiaeth bosibl i'r rhai sydd wedi sefydlu eu busnes yn ddiweddar ac yn eu helpu i barhau i fasnachu drwy'r cyfnod rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022 er gwaethaf lledaeniad Omicron.

Er mwyn bod yn gymwys rhaid i fusnesau fod yn masnachu ar neu cyn 1 Medi 2021.  

Mae gwiriwr cymhwysedd ar gyfer elfen y Gronfa Cadernid Economaidd (ERF) o'r cyllid ar gael ar wefan Busnes Cymru. Mae'r gwiriwr i'w weld yn Offeryn Cymorth Argyfwng COVID-19 | Busnes Cymru (llyw.cymru)

I ddarllen y datganiad llawn gan Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, ewch i LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.