BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Darparu Brechlyn Brech y Mwncïod

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Ar 22 Gorffennaf 2022, cyhoeddodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU ddatganiad i’r wasg ynghylch cyflwyno’r brechlyn brech y mwncïod yn gyflymach yn Llundain. Diben y datganiad hwn yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau o ran effeithiau hyn ar gyflwyno’r brechlyn yng Nghymru.

Nid yw’r brechlynnau brech y mwncïod yn cael eu cynhyrchu i’w defnyddio’n rheolaidd mewn unrhyw wlad, felly mae cyflenwadau byd-eang wedi eu cyfyngu. Oherwydd y cyfyngiad ar gyflenwadau, mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU wedi cytuno, yn y tymor byr, i’r dull cyffredin i’r DU gyfan o reoli brigiadau o achosion, a gynigir gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU. Mae hyn yn golygu y bydd cyflwyno’r brechlyn yn cael ei flaenoriaethu lle ceir brigiadau lleol o achosion.

Yng Nghymru, fel gweddill y DU, mae hyn yn golygu, yn y tymor byr, mai dim ond y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf mewn ardaloedd â brigiadau lleol o achosion sy’n cael eu blaenoriaethu ar gyfer brechu. Bydd eu bwrdd iechyd yn cysylltu’n uniongyrchol â phobl yn y categori hwn yng Nghymru.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.