BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Dosbarthu llety hunanddarpar at ddibenion treth leol

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

“Ar 2 Mawrth 2022, cyhoeddais y camau nesaf sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru, yn dilyn ein hymgynghoriad ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar. Mae’r camau yn rhan o’n cynlluniau i sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg i’r cymunedau lle mae ganddyn nhw gartrefi neu’n rhedeg busnesau. Mae’r gwaith hwn, yn ei dro, yn rhan o ddull tair elfen Llywodraeth Cymru i roi sylw i’r effaith y gall niferoedd mawr o ail gartrefi a llety gwyliau ei chael ar gymunedau a’r Gymraeg.

Mae’r safbwyntiau sy’n cael eu cyfleu yn yr ymgynghoriad, gan gynnwys rhai gan ymatebwyr sy’n cynrychioli’r diwydiant twristiaeth ehangach, yn amlwg yn cefnogi newid y meini prawf ar gyfer dosbarthu llety hunanddarpar yn annomestig. Roedd ymatebwyr o’r farn y byddai’r rhan fwyaf o fusnesau llety gwyliau dilys yn gallu bodloni’r trothwyon gosod eiddo uwch, ac awgrymwyd ystod eang o ddewisiadau amgen posibl.

Bydd cynyddu’r trothwyon yn dangos yn gliriach bod yr eiddo dan sylw yn cael ei osod yn rheolaidd ac yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r economi leol.

Yn dilyn ein hymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru o’r farn y dylai eiddo nad yw’n cael ei osod fel llety hunanddarpar yn aml fod yn agored i dalu’r dreth gyngor. Bydd meini prawf uwch ar gyfer gosod yn sicrhau bod eiddo hunanddarpar yn cael ei ddosbarthu’n annomestig, dim ond os yw’n cael ei ddefnyddio at ddibenion busnes am y rhan fwyaf o’r flwyddyn.

Felly, cyhoeddais gynnydd i nifer y dyddiau, o fewn unrhyw gyfnod 12 mis, y mae’n ofynnol i eiddo hunanddarpar fod ar gael i’w osod, o 140 i 252 diwrnod, a’i osod mewn gwirionedd, o 70 i 182 diwrnod. Cynhaliwyd ymgynghoriad technegol ar Orchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 drafft (“y Gorchymyn”) rhwng 1 Mawrth a 12 Ebrill 2022. Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn ar eglurder a gweithrediad ymarferol y ddeddfwriaeth ddrafft. Rwyf wedi cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion…”

I ddarllen yr ymweliad datganiad llawn ewch i Datganiad Ysgrifenedig: Dosbarthu llety hunanddarpar at ddibenion treth leol (24 Mai 2022) | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.