BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Deall gweithio oddi ar y gyflogres (IR35)

Gall y rheolau gweithio oddi ar y gyflogres fod yn berthnasol os yw gweithiwr yn darparu ei wasanaethau drwy gyfryngwr.

Cwmni gwasanaeth personol y gweithiwr fydd y cyfryngwr fel arfer. Gallai hefyd fod yn bartneriaeth, yn gwmni gwasanaethau a reolir neu’n unigolyn.

Mae'r rheolau’n gwneud yn siŵr bod gweithwyr, a fyddai wedi bod yn gyflogeion pe baent yn darparu eu gwasanaethau i'r cleient yn uniongyrchol, yn talu mwy neu lai yr un faint o dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol â chyflogeion.

Gelwir y rheolau hyn yn ‘IR35’ weithiau.

Gallai'r rheolau hyn fod yn berthnasol i chi:

  • os ydych chi’n weithiwr sy’n darparu gwasanaethau drwy gyfryngwr
  • os ydych chi’n gleient sy’n cael gwasanaethau gan weithiwr drwy gyfryngwr
  • os ydych chi’n asiantaeth sy’n darparu gwasanaethau gweithwyr drwy gyfryngwr

Os yw’r rheolau’n berthnasol, mae’n rhaid didynnu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol o ffioedd a’u talu i CThEM.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.