BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Defnyddio nod UKNI o 1 Ionawr 2021 ymlaen

Mae'r DU wedi gadael yr UE, ac mae'r cyfnod pontio ar ôl Brexit yn dod i ben eleni.

Daw Protocol Gogledd Iwerddon i rym o 1 Ionawr 2021 ymlaen. Cyhyd ag y bydd mewn grym, bydd Gogledd Iwerddon yn cyd-fynd â holl reolau perthnasol yr UE sy'n ymwneud â rhoi nwyddau a weithgynhyrchwyd ar y farchnad. Rhaid i chi ddangos bod eich cynnyrch yn bodloni'r rheolau hynny drwy ddefnyddio 'marciau cydymffurfio.’

Mae marciau UKNI yn farciau cydymffurfiaeth newydd ar gyfer cynhyrchion a roddir ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon sydd wedi cael asesiad cydymffurfio trydydd parti gorfodol gan gorff sydd wedi'i leoli yn y DU.

I gael gwybod a oes angen i chi ei ddefnyddio, ac os felly, sut, defnyddiwch y ddolen ganlynol i ymweld â gwefan GOV.UK.   

Ewch i wefan Porth Pontio UE Busnes Cymru sy'n rhoi cyngor ac arweiniad pwysig i fusnesau sy'n paratoi ar gyfer y trefniadau pontio Ewropeaidd

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.