BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Deietau’r Dyfodol – Gweithdai Datblygu Cynnyrch Newydd

Yn y gweithdy datblygu cynnyrch newydd (DCN) hwn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, bydd cwmnïau bwyd a diod yn cael mynediad at fewnwelediad o’r radd flaenaf gan arweinwyr y diwydiant.

Mae ymchwil Deietau’r Dyfodol yn rhoi golwg gyntaf, hirdymor ar arferion bwyta defnyddwyr dros y 10 mlynedd nesaf. Bydd hyn yn helpu busnesau i ddatblygu fframwaith cynllunio sy’n hanfodol ar gyfer DCN hirdymor a strategaeth fusnes lwyddiannus.

Bydd y cynrychiolwyr yn:

  • Deall yn fanwl y ffordd y bydd dietau defnyddwyr yn datblygu dros y 10 mlynedd nesaf
  • Cymryd rhan mewn gweithdy ysbrydoledig i roi hwb i syniadau DCN yn eu busnes
  • Bod ag o leiaf un syniad i fynd yn ôl at eu busnes a datblygu i mewn i’w strategaeth DCN

Mae’r ymchwil a rannwyd yn y digwyddiad diwrnod llawn hwn yn torri tir newydd a bydd yn hanfodol i unrhyw fusnes bwyd a diod o Gymru.

Mae’r digwyddiad hwn yn digwydd mewn lleoliadau ledled Cymru:

Am fwy o wybodaeth, ewch i Deietau'r Dyfodol - Gweithdai Datblygu Cynnyrch Newydd - Food Innovation Wales

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.