BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Digwyddiad Cyflenwyr Busnesau Bach yr Adran Drafnidiaeth

Mae Grŵp yr Adran Drafnidiaeth (DfT) a rhanddeiliaid allweddol eraill yn cynnal Digwyddiadau i Gyflenwyr Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau) wyneb-yn-wyneb yn Neuadd Brangwyn, Abertawe ar 20 Hydref 2022 i gynnig cyfle i BBaChau rwydweithio ag uwch gynrychiolwyr o bob rhan o’r Adran. Dyma’r cyntaf o sawl digwyddiad rhanbarthol a fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon a’r flwyddyn ariannol nesaf.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys:

  • prif araith gan Paul Rodgers, Cyfarwyddwr Masnachol Grŵp yr Adran Drafnidiaeth a noddwr BBaChau Grŵp Arweinyddiaeth Swyddogaeth Fasnachol y Llywodraeth.
  • cyflwyniad gan Martin Traynor, Cynrychiolydd BBaCh y Goron, ar y Bil Caffael.
  • rhwydweithio â’r Adran Drafnidiaeth, HS2 Ltd, Network Rail, National Highways, DVLA, yr Adran Masnach Ryngwladol a llawer mwy i wella tryloywder gwybodaeth am lif prosiectau a chyfleoedd i arloesi.
  • cyflenwyr allweddol yn rhannu arfer gorau ar sut i ddod yn isgontractwyr yn y gadwyn gyflenwi.
  • bydd rhwydweithio â Gwasanaethau Masnachol y Goron yn rhoi manylion am y fframweithiau sydd ar gael sy’n addas i BBaChau a sut i ymrestru.
  • fideo gan y Gwasanaethau Adolygu Caffael Cyhoeddus (PPRS) – mae PPRS yn galluogi cyflenwyr i godi unrhyw bryderon sydd ganddynt am brynu yn y sector cyhoeddus a thalu’n brydlon yn ddienw. Mae’r fideo yn rhoi gwybodaeth am rôl PPRS a’r broses uwchgyfeirio.

I fynegi eich diddordeb yn y digwyddiad hwn, llenwch arolwg drwy glicio’r ddolen hon erbyn diwedd y dydd ar 27 Medi 2022. 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â GCDSMELead@dft.gov.uk

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.