BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Digwyddiad yn amlygu manteisio gweithle sy’n gynhwysol o ran oed

Gall pobl hŷn wynebu llawer o rwystrau rhag dod o gyd i gyflogaeth ac aros mewn cyflogaeth, fel diffyg oriau hyblyg i’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu neu’r rhai sy’n byw â chyflyrau iechyd hirdymor.

Gan fod yr argyfwng costau byw cyfredol yn cael ergyd drom ar bobl hŷn yn arbennig, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn galluogi pobl hŷn i fanteisio ar gyflogaeth ac aros mewn cyflogaeth, os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Dyna pam mae Age Cymru a’i bartneriaid wedi trefnu digwyddiad wyneb-yn-wyneb, ‘Sbotolau ar gyflogaeth a phobl hŷn’, sy’n cael ei gynnal yn adeiladau’r Senedd yng Nghaerdydd ar 31 Ionawr 2023 o 12pm hyd 2pm.

Bydd y digwyddiad yn archwilio sut mae cyflogwyr yng Nghymru yn creu gweithleoedd lle gall gweithwyr hŷn ffynnu, ynghyd â’r manteision y gall gweithlu oed cymysg eu cynnig i sefydliadau.

Mae’r digwyddiad wedi’i seilio ar gasgliad o draethodau a ysgrifennwyd yn 2022 gan academyddion, cyflogwyr a chyflogeion hŷn ar gyfer cyfnodolyn academaidd Age Cymru, EnvisAGE. 

Os hoffech fynychu, cysylltwch â Dr Ceri Cryer yn ceri.cryer@agecymru.org.uk, neu ffoniwch 029 2043 1555. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Age Cymru¦Event spotlighting the benefits of an age-inclusive workplace (ageuk.org.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.