BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Digwyddiadau Cymru’n cyhoeddi dwy gronfa newydd

Bydd dwy gronfa newydd gan Digwyddiadau Cymru sy’n cynnig cymorth yn ôl disgresiwn yn derbyn ceisiadau o heddiw ymlaen (19/04/23). Mewn gweminar arbennig ar gyfer y diwydiant heddiw ac yn dilyn datblygiad y Strategaeth Diwyddiadau newydd ar gyfer Cymru, mae ceisiadau i’r Gronfa Datblygu Sector neu’r Gronfa Arloesi Cynaliadwyedd ar gyfer gwaith yn ystod 2023/2024 neu 2024/2025 yn cael eu gwahodd.

Cafodd gwaith datblygu o fewn y sector a chynaliadwyedd digwyddiadau eu pennu yn y Strategaeth newydd fel blaenoriaethau parhaus ar gyfer diwydiant digwyddiadau Cymru dros y blynyddoedd nesaf ac mae’r cronfeydd yn anelu at gefnogi prosiectau sy’n targedu’n benodol y ddwy ffrwd waith bwysig hyn.

  • Mae hyd at £300,000 y flwyddyn ar gael o fewn y Gronfa Datblygu Sector a bydd yn anelu at gefnogi prosiectau a all ddangos y byddant yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r diwydiant digwyddiadau yng Nghymru, ac yn benodol mewn meysydd gweithgarwch a bennwyd fel blaenoriaethau yn y Strategaeth newydd fel datblygu sgiliau. Rhagwelir na fydd ceisiadau unigol yn derbyn mwy na £20,000-£30,000 o’r gronfa hon.
  • Mae hyd at £200,000 y flwyddyn ar gael o fewn y Gronfa Arloesi Cynaliadwyedd ac mae’n gwahodd ceisiadau oddi wrth brosiectau y bwriedir eu cynnal yn ystod yr un cyfnod ac sy’n cynnig dulliau newydd ac arloesol o gyflawni cynaliadwyedd ym maes digwyddiadau. Rhagwelir na fydd ceisiadau unigol yn derbyn mwy na £10,000-£15,000 o’r gronfa hon.

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth drefnwyr/perchenogion digwyddiadau, busnesau o fewn cadwyni cyflenwi, awdurdodau lleol, y byd academaidd neu bobl eraill sydd â swyddogaeth berthnasol o fewn y diwydiant digwyddiadau. Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr fod wedi’u lleoli yng Nghymru neu bydd angen iddynt ddangos y bydd y cyllid yn cael ei wario yng Nghymru a bod y gweithgarwch a gefnogir yn digwydd yng Nghymru. Croesewir hefyd brosiectau partneriaeth rhwng 2 neu fwy o ddigwyddiadau neu sefydliadau a dylai’r ymgeiswyr fod â hanes profedig o ddarparu gwasanaethau o safon uchel yn y diwydiant digwyddiadau, hyfforddiant neu mewn diwydiant arall perthnasol. Os mai dyma’r fenter gyntaf ar gyfer busnes newydd nad oes ganddo hanes profedig, dylai’r Cyfarwyddwyr fod â hanes profedig o arwain prosiectau mewn maes tebyg.  

Gallwch gael rhagor o fanylion ynghylch y ddwy gronfa yma, cliciwch ar y dolenni canlynol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.