BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dim angen Trwydded Mynediad i Gaint ar gludwyr i deithio rhwng y DU a'r UE mwyach

Bydd mesurau rheoli traffig yng Nghaint yn cael eu dileu wrth i fasnach ddychwelyd i lefelau arferol.

Bydd Trwydded Mynediad i Gaint yn cael ei dileu o 20 Ebrill 2021, gan fod oedi wedi'i atal diolch i'r ffaith bod cludwyr wedi gwneud y paratoadau angenrheidiol cyn cyrraedd y ffin.

Bydd dileu'r Drwydded yn golygu llai o waith papur i gludwyr ac yn gwneud croesi’r ffin yn gyflymach ac yn haws, gan gefnogi ymhellach y llif dirwystr nwyddau o'r DU i Ewrop.

Bydd cymorth ar gael o hyd i gludwyr yn ymwneud â gofynion ffiniau yn unrhyw un o'r 46 o safleoedd gwybodaeth a chyngor ledled y DU, a bydd y safleoedd prysuraf ar agor tan fis Awst o leiaf. 
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.

Am ragor o wybodaeth am sut i baratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a’r UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.