Mae cyngor yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi newid, a rhaid i chi nawr gynnal asesiad risg unigol ar gyfer gweithwyr beichiog a mamau newydd.

Ni fydd llawer o newid ymarferol gan fod rhaid i chi ystyried risgiau i fenywod o oedran geni yn eich asesiad risg cyffredinol yn barod.

Y gwahaniaeth yw bod rhaid i chi hefyd gyflawni asesiad risg unigol sy'n cwmpasu anghenion penodol gweithiwr pan cewch eich hysbysu'n ysgrifenedig eu bod:

  • yn feichiog
  • wedi rhoi genedigaeth yn ystod y 6 mis diwethaf, neu
  • yn bwydo ar y fron

Mae tudalennau gwe diweddaredig yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn rhoi cyngor ar siarad â gweithwyr, a'u diogelu rhag risgiau cyffredin fel gweithio mewn mannau uchel a chodi llwythi trwm.

Mae cyngor penodol i weithwyr eu hunain a fideo gyda chyngor ymarferol ar sut i gadw gweithwyr beichiog a mamau newydd yn ddiogel. 
 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen