BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diogelu gweithwyr bregus yn ystod y pandemig coronafeirws

Os oes gan eich busnes weithwyr, yna gofalwch eich bod yn ystyried y risg i weithwyr sy’n agored iawn i goronafeirws a rhowch fesurau rheoli ar waith i leihau’r risg hwnnw.

Mae canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn egluro beth ddylech chi ei wneud fel cyflogwr i ddiogelu gweithwyr bregus yn ystod y pandemig.

Mae’n cynnwys y pynciau canlynol:

  • cefnogi gweithwyr mewn grwpiau risg uwch
  • gweithwyr hynod fregus yn glinigol
  • cefnogi gweithwyr hynod fregus i ddychwelyd i’r gwaith
  • mesurau diogelu mewn ardaloedd lle mae cyfyngiadau lleol
  • gweithwyr beichiog

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Mae dolen hefyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am warchod a diogelu gweithwyr yng Nghymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.