BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diogelu gweithwyr gartref yn ystod y pandemig

Mae gan gyflogwyr yr un cyfrifoldebau iechyd a diogelwch i weithwyr sy’n gweithio gartref ag unrhyw weithwyr eraill.

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi llunio canllawiau os yw’ch pobl yn gweithio o gartref.

Dylech:

  • ddarparu’r cyfarpar sydd eu hangen arnyn nhw, er enghraifft cyfrifiadur, ffôn a chyfleusterau fideo-gynadledda
  • cadw mewn cysylltiad rheolaidd â nhw, gan sicrhau eich bod yn trafod eu llesiant

Mae’r canllawiau yn egluro’r mesurau y dylech chi eu rhoi ar waith i ddiogelu gweithwyr cartref, gan gynnwys:

  • gweithio ar eich pen eich hun heb oruchwyliaeth
  • gweithio gyda chyfarpar sgrin arddangos
  • straen ac iechyd meddwl

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.