BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diogelu gweithwyr gartref yn ystod y pandemig coronafeirws

Os oes gennych chi bobl yn gweithio o gartref yn sgil y pandemig coronafeirws, mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gyngor i gyflogwyr ei ddilyn.

Materion y dylai cyflogwyr ystyried eu cynnwys:

  • gweithio ar eu pen eu hunain heb oruchwyliaeth
  • gweithio gyda chyfarpar sgrin arddangos
  • cadw mewn cysylltiad i adnabod arwyddion o straen a phroblemau iechyd meddwl

Dylid hefyd nodi bod yn rhaid i gyflogwyr ddarparu a thalu am brofion llygaid ar gyfer unrhyw weithwyr sy'n defnyddio cyfarpar sgrin arddangos - gweithwyr sy’n defnyddio’r cyfarpar bob dydd, am awr neu fwy ar y tro.

Ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am ragor o wybodaeth.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.