BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dirprwy Weinidog yn annog teuluoedd cymwys i hawlio taliadau Cychwyn Iach

Mae Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn annog teuluoedd cymwys i ymuno â’r cynllun Cychwyn Iach i’w galluogi i gael bwyd iach a fitaminau am ddim.

Gall teuluoedd gael cerdyn wedi’i ragdalu, yr ychwanegir credyd iddo bob pedair wythnos, i brynu bwyd iach – ffrwythau, llysiau, codlysiau, llaeth a fformiwla babanod. Gallant hefyd gael fitaminau Cychwyn Iach am ddim.

Ar hyn o bryd, nid yw bron i 40% o bobl sy’n gymwys i’r cynllun yng Nghymru yn ei hawlio.

Mae’r cynllun Cychwyn Iach ar gael i’r rhai hynny sydd dros 10 wythnos yn feichiog neu sydd â phlentyn o dan 4 oed ac sy’n cael budd-daliadau penodol.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Dirprwy Weinidog yn annog teuluoedd cymwys i hawlio taliadau Cychwyn Iach | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.