
Mae disgwyl i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a'r Cyflog Byw Cenedlaethol gynyddu ar 1 Ebrill 2020.
Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol cyfredol ar gyfer y rhai sy'n 25 oed neu'n hŷn yw £8.21, ac mae disgwyl iddo gynyddu 51c i £8.72.
O 1 Ebrill 2020, bydd cyfradd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer grwpiau oedran eraill hefyd yn cynyddu:
- bydd y rhai rhwng 21 a 24 oed yn cael £8.20 yr awr, sy'n gynnydd o 50c
- bydd y rhai rhwng 18 ac 20 oed yn cael £6.45 yr awr, sy'n gynnydd o 30c
- bydd y rhai rhwng 16 a 17 oed yn cael £4.55 yr awr, sy'n gynnydd o 20c
- bydd y rhai sydd ar y gyfradd i brentisiaid yn cael £4.15 yr awr, sy'n 25c yr awr o gynnydd
Am ragor o wybodaeth ynghylch cyfraddau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a'r Cyflog Byw Cenedlaethol ewch i wefan GOV.UK.