BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diweddariad coronafeirws Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod £15.7 miliwn arall yn cael ei roi er mwyn cynyddu maint y gweithlu olrhain cysylltiadau yng Nghymru ar gyfer y gaeaf.

I ddarllen y datganiad llawn ewch i wefan Llyw.Cymru.

Cynllun ychwanegiad at dâl salwch statudol ar gyfer COVID-19

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru canllawiau cymorth i weithwyr gofal a fydd yn gorfod aros adref o'r gwaith oherwydd achos gwirioneddol o COVID-19 neu achos a amheuir fod COVID-19 arnynt, neu oherwydd bod yn rhaid iddynt hunanynysu.

Gwiriwch a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun ychwanegiad at dâl salwch statudol ar gyfer COVID-19 i staff gofal cymdeithasol, drwy ymweld a tudalen Cynllun ychwanegiad at dâl salwch statudol ar gyfer COVID-19: offeryn gwirio pwy sy'n gymwys.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.