BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diweddariadau gan CThEM ar Bontio

Hawlio cyfraddau ffafriol ar dollau rhwng y DU a’r UE – Mae gwybodaeth am sut i hawlio cyfraddau ffafriol ar dollau ar nwyddau sydd wedi’u cwmpasu yng nghytundeb y DU gyda’r UE a sut i ddatgan nwyddau sy’n cael eu mewnforio i’r DU ar eich datganiad mewnforio yma: Claiming preferential rates of duty between the UK and EU - GOV.UK (www.gov.uk) 

Profi statws tarddiol a hawlio cyfradd Toll Dramor is ar gyfer masnachu rhwng y DU a’r UE – Mae gwybodaeth am sut i brofi statws tarddiol eich nwyddau a gwirio a allwch chi hawlio cyfradd dariff ffafriol yma: Proving originating status and claiming a reduced rate of Customs Duty for trade between the UK and EU - GOV.UK (www.gov.uk)

Gwneud cais i ddefnyddio datganiadau symlach ar gyfer mewnforion – Mae gwybodaeth am y gwahanol ddatganiadau symlach ar fewnforion a’r hyn sydd angen i chi ei wneud i gael eich awdurdodi i’w defnyddio yma: Apply to use simplified declarations for imports - GOV.UK (www.gov.uk) 

Gwasanaeth Datgan Tollau (CDS) - Mae canllawiau ac adnoddau cynhwysfawr ar gael yma sy’n amlinellu’r camau ar gyfer bod yn barod ar gyfer CDS: Preparing for the Customs Declaration Service - GOV.UK (www.gov.uk). Mae’n rhaid cyflawni pob datganiad ar fewnforion ar CDS erbyn 30 Medi 2022: Customs Declaration Service - GOV.UK (www.gov.uk)

Cymorth a chefnogaeth ar gyfer proses bontio’r DU – Gwyliwch fideos, cofrestrwch ar gyfer negeseuon e-bost a chofrestrwch ar gyfer gweminarau am ddim i ddysgu mwy am broses bontio’r DU yma: Help and support for UK transition - GOV.UK (www.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.