BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Amgylchedd y Byd 2022

Diwrnod Amgylchedd y Byd 2022, a gynhelir ar 5 Mehefin 2022, yw'r diwrnod rhyngwladol mwyaf i'r amgylchedd. 

Dan arweiniad Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig (UNEP), ac wedi cael ei gynnal yn flynyddol ers 1974, mae wedi tyfu i fod y llwyfan byd-eang mwyaf ar gyfer allgymorth amgylcheddol. Mae'n cael ei ddathlu gan filiynau o bobl ledled y byd. 

#OnlyOneEarth yw slogan ymgyrch Diwrnod Amgylchedd y Byd 2022 ac mae’n galw am gydweithredu trawsnewidiol ar raddfa fyd-eang i ddathlu, diogelu ac adfer ein planed, gan ganolbwyntio ar "Byw'n Gynaliadwy mewn Cytgord â Natur". 

I gael mwy o wybodaeth, ewch i https://www.worldenvironmentday.global/

I ddarganfyddwch sut i gymryd camau rhagweithiol i wella cynaliadwyedd yn eich busnes, ewch i Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru.
 

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.