BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Eiddo Deallusol y Byd 2022

Ledled y byd, mae pobl ifanc yn ymateb i heriau arloesi, gan ddefnyddio eu hegni a'u dyfeisgarwch, eu chwilfrydedd a'u creadigrwydd i lywio llwybr tuag at ddyfodol gwell. 

Eleni, mae thema Diwrnod Eiddo Deallusol y Byd 2022 yn canolbwyntio ar eiddo deallusol a ieuenctid yn arloesi ar gyfer Dyfodol Gwell. 

Darganfyddwch sut y gall dyfeiswyr, crewyr ac entrepreneuriaid ifanc ddefnyddio hawliau eiddo deallusol (IP) i gyflawni eu nodau, cynhyrchu incwm, creu swyddi, mynd i'r afael â heriau lleol a byd-eang a chefnogi datblygiad cymunedol a chenedlaethol. 
Cynhelir Diwrnod Eiddo Deallusol y Byd 2022 ar 26 Ebrill. 

Dysgwch y pethau sylfaenol am ddiogelu a manteisio ar eich eiddo deallusol gydag arweiniad gan ein harbenigwyr yn Busnes Cymru ar Eiddo deallusol | Arloesi (llyw.cymru)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.