BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth 2021

Rhyddhad treth yw Rhodd Cymorth ar gyfer unigolion sy’n eu galluogi i roi’r dreth incwm neu’r dreth enillion cyfalaf y maent yn ei dalu yn uniongyrchol i elusen ar ben eu rhodd.

Mae’n ychwanegu 25c at bob £1 a roddir i elusen.

Mae Rhodd Cymorth yn rhyddhad treth bwysig gwerth £1.3 biliwn i’r sector elusennau.

Cynhelir Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth eleni ddydd Iau 7 Hydref 2021.

Mae’r Grŵp Cyllid Elusennau (CFG) yn gofyn i elusennau, bach, canolig a mawr yn y DU i ledaenu’r neges #TiciwchyBocs i gymaint o bobl ag sy’n bosib ar 7 Hydref 2021.

Mae CFG wedi llunio pecyn ymgyrch 2021 i’w ddefnyddio, sy’n cynnwys logos, posteri, inffograffeg a baner.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan CFG


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.