BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ecwiti

Mae UnLtd a Cwmnïau Cymdeithasol Cymru wedi partneru er mwyn dod o hyd i, ariannu a darparu cefnogaeth i entrepreneuriaid cymdeithasol yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y rheini o gefndiroedd sydd wedi'u hymyleiddio.

Gan gydnabod bod pandemig Covid-19 wedi dwysáu'r anghyfartaledd sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru, nod Ecwiti yw cynorthwyo'r rheini sydd wedi'u heffeithio waethaf. Caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Bydd yn gweithio i'r deilliannau a nodir yn Trawsnewid Cymru trwy Fentrau Cymdeithasol, gweledigaeth 10 mlynedd i weld mentrau cymdeithasol yn ddewis cyntaf i'w mabwysiadu yn fodel busnes.

Rhyngddynt bydd y partneriaid yn cynnig oddeutu £120,000 mewn nawdd a chefnogaeth i amrediad o fentrau cymdeithasol fedru cychwyn, cynnal a/neu dyfu eu busnesau, ac yn ychwanegol i'r cynnig arferol o gefnogaeth.

Yng Nghymru, mae pobl anabl, Du, Asaidd a chymunedau lleiafrifol ethnig, a phobl sy'n byw mewn tlodi (gwledig a threfol) yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan y pandemig. 

Rhwng Rhagfyr 2021 a Mawrth 2023 bydd UnLtd a Cwmnïau Cymdeithasol Cymru yn chwilio i ariannu entrepreneuriaid cymdeithasol yng Nghymru sy'n:

  • byw neu'n gweithio mewn ardaloedd â chyfraddau uchel o dlodi
  • Du, Asaidd a/neu o gefndiroedd lleiafrifol ethnig
  • anabl
  • meddu ar brofiad byw o'r elfennau cymdeithasol y maent yn ceisio eu datrys

Y dyddiad cau i wneud cais yw 31 Rhagfyr 2022.

Am ragor o wybodaeth ewch i UnLtd - Awards | Funding and support to grow your impact | 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.