Yn dechrau heddiw bydd angen Pàs COVID y GIG mewn sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd yng Nghymru.

Mae ymestyn y Pàs COVID yn un o nifer o fesurau sydd wedi’u cryfhau i helpu i gadw pobl yn ddiogel a busnesau ar agor tra bod Cymru'n parhau i fod ar lefel rhybudd sero er bod achosion o coronafeirws yn uchel iawn.

Mae'r canllawiau ar hunanynysu hefyd wedi'u newid ac mae pobl yn cael eu hannog i weithio gartref i helpu i ddod â'r feirws dan reolaeth.

Cafodd estyniad y Pàs ei gymeradwyo gan Aelodau'r Senedd mewn pleidlais ar 9 Tachwedd 2021.

Cael eich pàs COVID y GIG.
 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen