BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Eiddo deallusol ar ôl 1 Ionawr 2021

O 1 Ionawr 2021, bydd Swyddfa Eiddo Deallusol y DU yn creu dyluniad  ailgofrestredig ar gyfer y DU ar gyfer pob dyluniad rhyngwladol (UE) a fydd yn cael ei ddiogelu ar ddiwedd y cyfnod pontio.

Os oes cais am ddyluniad rhyngwladol yn dynodi’r UE wedi ei wneud, ond nad yw wedi’i ddiogelu eto neu os yw’r cyhoeddiad wedi’i oedi, bydd gan y daliwr gyfnod o naw mis i wneud cais am yr un hawl â dyluniad y DU.

Bydd yn rhaid talu ffioedd cais y DU, a bydd y cais yn amodol ar ofynion archwilio’r DU.

Mae rhagor o wybodaeth allweddol ar gyfer cwsmeriaid a defnyddwyr Eiddo Deallusol a sut y bydd y system Eiddo Deallusol a Swyddfa Eiddo Deallusol y DU yn gweithredu ar ôl diwedd y cyfnod pontio ar gael ar wefan GOV.UK.

Am ragor o wybodaeth am sut i baratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a'r UE, ewch i Porth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.