BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Eisiau gwybod rhagor am dechnoleg Cymraeg i fusnesau? Gad i Helo Blod helpu

Wyt ti eisiau defnyddio bach mwy o Gymraeg yn dy fusnes? Ry’n ni newydd gyhoeddi rhestr o adnoddau technoleg Cymraeg ar ein gwefan sy’n gallu helpu gyda hyn.  

Dyma rai o’r enghreifftiau o’r mathau o bethau sydd ar gael am ddim: 

  • Cysgliad – eisiau magu hyder wrth ysgrifennu yn Gymraeg? Mae Cysgliad yn wirydd sillafu ac yn gyfres o eiriaduron Cymraeg. Mae mwy na chwe mil o gopïau wedi'u lawrlwytho ers ei ryddhau yn rhad ac am ddim. 
  • Canllaw i dy helpu i ddatblygu gwasanaethau a meddalwedd dwyieithog sy’n hawdd i bobl eu defnyddio. Wrthi’n tendro am wasanaeth? Gwahoddwch gontractwyr posibl i lenwi hyn. 

Mae gyda ni fwy na 50 o adnoddau a bydd y rhestr yn tyfu – felly gobeithio y byddi di’n dod o hyd i un sydd o ddefnydd i ti a dy fusnes.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Helo Blod.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.