Bydd aros yn gystadleuol mewn marchnad sy’n dod yn fwyfwy heriol yn dod yn fwy o flaenoriaeth i fusnesau Cymru, ac mae costau y gallwch eu lleihau heb i hynny effeithio ar eich cynhyrchiant.
Sut? Drwy newid eich hen gyfarpar neu gyfarpar aneffeithlon, fel systemau gwresogi, goleuo, unedau awyru ac oeri, neu drwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy.
Mae gennym rwydwaith o gynghorwyr busnes a all weithio gyda'ch busnes i ystyried ffyrdd y gallwch arbed arian a gwneud eich busnes yn fwy effeithlon. Am fwy o wybodaeth a chael cwrdd â chynghorydd am ddim ffoniwch 03000 6 03000 neu anfonwch e-bost atom.
Yn ogystal, dyma rai o'r cynlluniau sydd ar gael i chi:
-
yr Ymddiriedolaeth Garbon - benthyciad di-log ar gyfer amrywiaeth eang o brosiectau effeithlonrwydd ynni neu ynni adnewyddadwy, mae gwybodaeth lawn i'w chael yn y canllaw 'Camau at Lwyddiant'
-
yr Ymddiriedolaeth Garbon - rhaglen ymgynghori a mentora effeithlonrwydd ynni am ddim Start2Act
-
y Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy Annomestig (RHI) - os ydych chi'n bwriadu gosod technolgau gwresogi adnewyddadwy
-
y Cynllun Lwfansau Cyfalaf Uwch (ECA) - yn galluogi busnesau i osod holl gost cyfarpar effeithlonrwydd ynni newydd yn erbyn treth
Am awgrymiadau cyflym ar leihau eich costau, cymerwch olwg ar ein canllaw Effeithlonrwydd Adnoddau.