BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ffederasiwn y Busnesau Bach - Gwobrau Dathlu Busnesau Bach 2022

Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) - Gwobrau Dathlu Busnesau Bach yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniadau sylweddol busnesau bach a phobl hunangyflogedig yn y DU.

Nod y gystadleuaeth yw cydnabod pob unigolyn, cwmni neu deulu sy’n rhedeg neu'n gweithio mewn busnes bach, neu sy’n berchen arno.

Dyma'r categorïau:

  • busnes rhyngwladol y flwyddyn
  • gwobr amgylcheddol
  • microfusnes y flwyddyn
  • busnes newydd y flwyddyn
  • busnes twf uchel y flwyddyn
  • busnes teuluol y flwyddyn
  • entrepreneur ifanc y flwyddyn (30 oed ac iau)
  • gwobr llesiant y flwyddyn
  • gwobr gymunedol – ardal yn unig
  • gwobr arloesi gyda chynnyrch a busnes
  • busnes digidol/e-fasnach y flwyddyn  masnachwr hunangyflogedig/unigol y flwyddyn

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yng Nghymru yw 20 Chwefror 2022, a chynhelir y rownd derfynol ar 8 Ebrill 2022.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gymryd rhan yn y gystadleuaeth, ewch i wefan FSB.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.