BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Fframwaith Windsor

Mae Fframwaith Windsor, y cytunwyd arno gan y Prif Weinidog a Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, yn disodli hen Brotocol Gogledd Iwerddon, gan ddarparu fframwaith cyfreithiol a chyfansoddiadol newydd.

Mae'n sicrhau bod nwyddau yn gallu llifo'n rhydd rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon drwy gael gwared ar unrhyw ymdeimlad o'r ffin ym Môr Iwerddon ar gyfer nwyddau sy'n aros yn y DU. Bydd nwyddau o Brydain Fawr yn teithio i Ogledd Iwerddon fel yr arfer drwy Cynllun Marchnad Fewnol y DU newydd heb fiwrocratiaeth na gwiriadau diangen, gyda'r unig wiriadau sy'n weddill wedi'u cynllunio i atal smyglo neu droseddu. Bydd nwyddau cymwys yng Ngogledd Iwerddon yn gallu teithio i Brydain Fawr fel y gwnant ar hyn o bryd heb unrhyw wiriadau na gwaith papur rheolaidd.

Er mwyn rhoi amser i fusnesau ac unigolion baratoi, mae'r gwaith o weithredu'r cytundeb yn cael ei gyflwyno'n raddol, gyda rhai o'r trefniadau newydd ar gyfer nwyddau, bwyd-amaeth, anifeiliaid anwes a symudiadau planhigion wedi'u cyflwyno'n ddiweddar gydag eraill i ddilyn yn 2024.

Am fwy o wybodaeth, dewiswch y dolenni canlynol:

Gwybodaeth am symud gwahanol fathau o nwyddau i Ogledd Iwerddon:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.