BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Fintech Wales Foundry – Tymor 3

Mae rhaglen cyflymu heb ecwiti The Foundry, FinTech Wales, yn darparu mentoriaeth a chefnogaeth o'r radd flaenaf i helpu sefydliadau sy'n magu, cyflymu a datblygu busnesau newydd yn ecosystem Cymru a thu hwnt!

Ydych chi'n datblygu busnes FinTech cyfnod cynnar sy'n barod i fynd i'r farchnad a dechrau chwilio am fuddsoddiad? Yna mae'r rhaglen hon yn addas i chi.

Bydd Tymor 3 FinTech Wales Foundry yn canolbwyntio ar ddilysu busnes cyfnod cynnar, gan ddarparu mewnwelediad a mynediad i Gymru a'i ecosystem Fintech ffyniannus mewn ffordd na welwyd mohoni o'r blaen. 

Ydych chi'n ystyried gwneud cais am Raglen Cyflymu FinTech Wales Foundry, ond yn ansicr a yw’n addas i chi? Yna ymunwch ag un o'u sesiynau holi ac ateb ar-lein am ddim i ofyn eich cwestiynau llosg a darganfod popeth sydd angen i chi ei wybod am y rhaglen sydd i ddod cyn i chi wneud cais.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Season 3 of the FinTech Wales Foundry Q&A Sessions - FinTech Wales
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.