BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gadael yr UE ac Eiddo Deallusol

Mae’r DU a'r UE wedi cadarnhau’r Cytundeb Ymadael. Mae hyn yn caniatáu i’r DU adael yr UE ar 31 Ionawr ac yn golygu y bydd y cyfnod pontio (1 Chwefror 2020 - 31 Rhagfyr 2020) yn dechrau.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd cyfraith yr UE yn parhau i fod mewn grym yn y DU. Bydd y system Eiddo Deallusol yn aros fel y mae tan 31 Rhagfyr 2020.

Ni fydd unrhyw beth yn amharu ar wasanaethau’r Sefydliad Eiddo Deallusol ac ni fydd system eiddo deallusol y DU yn newid yn ystod y cyfnod pontio hwn.

Bydd y trefniadau yn adran Eiddo Deallusol y Cytundeb Ymadael yn dod i rym ar ddiwedd y cyfnod pontio. Mae’r trefniadau yn rhoi sicrwydd cyfreithiol ac yn diogelu buddiannau deiliaid hawliau a’r rheini sy’n defnyddio’r fframwaith Eiddo Deallusol.

Os ydych chi’n rhedeg busnes ac eisiau cael gwybod mwy am sut bydd gadael yr UE yn effeithio ar y canlynol:

  • Nodau masnach yr UE
  • dyluniadau cymunedol cofrestredig
  • dyluniadau heb eu cofrestru
  • cofrestriadau rhyngwladol sy’n dynodi'r Undeb Ewropeaidd
  • hawliau cynrychioli
  • patentau
  • tystysgrifau diogelu atodol
  • defnyddio hawliau
  • hawlfraint

Ewch i wefan GOV.UK i gael rhagor o wybodaeth.

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.