BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gall awyru da helpu i leihau lledaeniad COVID-19 yn y gweithle

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn parhau i ddiweddaru ei ganllawiau ar awyru gan annog pob gweithle i ddal ati i weithio’n ddiogel.

Wrth i fwy o bobl ddychwelyd i’r gweithle, gall defnyddio awyru da helpu i leihau faint o feirws sydd yn yr aer.

Mae hyn yn helpu i leihau’r risg o drosglwyddo aerosol a lledaeniad COVID-19 yn y gweithle.

Mae’r canllawiau wedi’u diweddaru ar eu gwefan i gynnwys ein crynodeb syml newydd sy’n esbonio sut mae awyru da yn helpu i leihau lledaeniad COVID-19.

Gyda’r gaeaf ar gyrraedd, mae canllawiau diwygiedig ar gydbwyso awyru gyda chadw'n gynnes.

Mae cyfres o fideos canllaw newydd hefyd ar awyru ar sianel YouTube yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.