BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Galwad Ariannu Arloesedd i BBaCh

Ydych chi’n BBaCh wedi’i leoli yng Nghymru gydag eiddo deallusol yr hoffech ei roi ar y farchnad?

Mae AgorIP yn gwahodd busnesau bach i ganolig i ymgeisio am gymorth ac arian! Fe all eich helpu i gyflwyno technolegau a syniadau newydd i’r farchnad a hwyluso’r gwaith o fasnacheiddio eich ymchwil. 

Mae AgorIP yn brosiect arloesedd unigryw sy’n gweithio i ddod â syniadau a dyfeisiau’n fyw. Wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe, gall Agor IP helpu BBaChau i wireddu potensial eu syniadau, cynhyrchion neu ymchwil. Gydag arbenigwyr yma i helpu i roi eiddo deallusol ar y farchnad a’i wneud yn llwyddiant masnachol.

Nod yr alwad ariannu yw cael prosiectau arloesol a throsglwyddo technoleg i ymgeisio am gefnogaeth a chymorth, a hwyrach cael gafael ar gyllid, sy’n cael ei reoli gan Reolwr Trosglwyddo Technoleg dynodedig yn AgorIP.

Os hoffech drefnu lle mewn cymhorthfa Cymorth ac Ymchwilio, e-bostiwch agorip@swansea.ac.uk. Mae hwn yn rhoi’r cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau am eich eiddo deallusol ac am y broses ymgeisio.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 22 Hydref 2021 am 4pm.

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i wefan AgoriIP

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.