BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Grant Busnesau Newydd i gefnogi busnesau yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ‘Grant Busnesau Newydd’ i gynorthwyo busnesau newydd yng Nghymru wrth ymdrin ag effaith ddifrifol y Coronafeirws.

Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn y ‘Grant Busnesau Newydd’ o hyd at £2,500, rhaid i fusnesau:

  • fod heb dderbyn arian o’r Gronfa Cadernid Economaidd na’r Grant Ardrethi Annomestig
  • fod wedi’u sefydlu rhwng 1 Ebrill 2019 ac 1 Mawrth 2020 a heb fod yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig
  • fod â llai na £50,000 o drosiant
  • fod wedi profi gostyngiad o fwy na 50% mewn incwm rhwng Ebrill-Mehefin 2020

Bydd y Grant Busnesau Newydd yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol a gellir cael gafael arno trwy wiriwr cymhwystra y Gronfa Cadernid Economaidd ar wefan Busnes Cymru https://fundchecker.businesswales.gov.wales/cy.

Bydd gofyn i ymgeiswyr gyflwyno ffurflen gais fer a hunan-ddatganiad a ategir gan dystiolaeth. Yn ogystal, bydd angen i ymgeiswyr gytuno i dderbyn cymorth a chyngor cychwyn busnes gan Busnes Cymru a chyd-fynd ag ethos ac egwyddorion y Contract Economaidd.

Gall busnesau wneud cais o hanner dydd ar 29 Mehefin 2020 ymlaen.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalennau cymorth i fusnesau COVID-19 Busnes Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.