Mae'r Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes ar gyfer pobl 25 oed a hŷn yn grant refeniw sy'n galluogi unigolion sy’n economaidd anweithgar ac unigolion di-waith sy'n 25 oed a hŷn i ddechrau busnes yng Nghymru, a bydd yn targedu unigolion sy'n wynebu rhwystrau rhag dechrau busnes a'r farchnad gyflogaeth yn benodol.
Mae grant hyd at £2,000 ar gael i helpu unigolion gyda chostau hanfodol dechrau'r busnes.
Y meini prawf cymhwystra ar gyfer y grant yw:
- Rydych chi'n economaidd anweithgar neu’n ddi-waith
- Eisiau dechrau busnes hunangyflogedig yng Nghymru
I ddechrau ar y broses ymgeisio, bydd angen i ymgeiswyr gwblhau dogfen mynegi diddordeb rhaid dychwelyd y ddogfen wedi'i chwblhau at Barriers2SUG@BusinessWales.org
Ar ol cael cymeradwyaeth, cewch gynnig gweminarau meithrin hyder a chymorth un-i-un cyn dechrau arni, er mwyn lleihau'r rhwystrau rhag dechrau eich busnes. Bydd ymgynghorwyr Busnes Cymru hefyd yn cynorthwyo ceisiadau ac yn cynnig cyngor, arweiniad a chymorth, yn ogystal â chael mynediad at gymorth dechrau busnes ychwanegol.
Bydd Busnes Cymru yn arfer disgresiwn wrth ddyfarnu’r grant yn seiliedig ar y dystiolaeth o angen a amlinellir yn yr achos busnes a'r cais.
Bydd y Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes ar gyfer pobl 25 oed a hŷn yn derbyn Mynegiannau o Ddiddordeb o 12 Gorffennaf 2022 ymlaen. I gael mwy o wybodaeth ewch i Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes ar gyfer pobl 25 oed a Hŷn | Busnes Cymru (gov.wales)
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 24 Mawrth 2023. Fodd bynnag, os caiff cronfeydd eu defnyddio’n llawn cyn y dyddiad hwn, bydd y cynllun yn dod i ben.
Ar gyfer unigolion sy'n iau na 25 oed, cyfeiriwch at y Grant Dechrau Busnes ar gyfer Pobl Ifanc
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cyn gwneud cais, neu os oes gennych chi unrhyw bryderon na fyddech yn medru cymryd rhan yn y broses ymgeisio neu gynllunio busnes oherwydd rhesymau meddygol/technegol/gofalu, cysylltwch â Busnes Cymru drwy ffonio 03000 6 03000, er mwyn i ni allu trafod sut allwn ni eich helpu.
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.