BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Grantiau Arbed Ynni Newydd i bweru clybiau chwaraeon yng Nghymru

Gwnewch gais am Grant Arbed Ynni o hyd at £25,000 i helpu eich clwb chwaraeon i arbed arian a dod yn fwy ynni-effeithlon.

Mae’r Grant Arbed Ynni yn cynnig cyfle unigryw i glybiau wneud gwelliannau arbed ynni ac arbed arian. Nid yn unig y bydd clybiau’n elwa ar filiau cyfleustodau is, ond byddant hefyd yn gwneud eu rhan dros yr amgylchedd hefyd.

Bydd y grantiau yn helpu clybiau i ddod yn fwy cynaliadwy yn ariannol fel y gallant barhau i gynnig gweithgareddau fforddiadwy i'w cymunedau.

Mae hwn yn gam sylweddol tuag at greu dyfodol cynaliadwy i glybiau chwaraeon yng Nghymru.

Felly, os ydych chi'n glwb sydd eisiau arbed arian a hefyd cael effaith gadarnhaol ar y blaned, mae'r grant yma'n gyfle perffaith i chi! 

Mae'r grant ar gyfer clybiau chwaraeon nid-er-elw a grwpiau cymunedol sydd am wneud gwelliannau arbed ynni. Bydd y gronfa'n cefnogi:

  • paneli solar
  • deunyddiau inswleiddio / adeiladu
  • goleuadau (ac eithrio llifoleuadau chwarae / hyfforddi)
  • gwell systemau gwresogi a dŵr poeth
  • ffynonellau dŵr cynaliadwy

Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw 28 Mehefin 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Grant Arbed Ynni | Chwaraeon Cymru | Chwaraeon Cymru 

Beth am gofrestru ar gyfer ‘Addewid Twf Gwyrdd’ a helpu eich busnes i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eich cynaliadwyedd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.