BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwasanaeth adnewyddu IP digidol

Mae gwasanaeth adnewyddu digidol newydd sy'n lleihau’n ddirfawr yr amser a gymer i adnewyddu hawliau IP, o 5 diwrnod i 5 munud, bellach ar gael i bob cwsmer gan y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO).

Am y tro cyntaf, gall cwsmeriaid sydd angen adnewyddu dyluniad cofrestredig wneud hynny ar-lein. Hefyd, gall cwsmeriaid adnewyddu hyd at 1,500 o hawliau IP - gan gynnwys cyfuniadau o batentau, nodau masnach a dyluniadau - diolch i un trafodyn digidol.

Mae'r IPO yn dweud y byddant yn cyflwyno'r egwyddorion dylunio hyn i'w rhaglen One IPO Transformation Programme, a fydd yn cynnig system integredig sengl ar gyfer pob hawl IP cofrestredig.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.