BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwella profiad cwsmeriaid i bobl anabl

Mae'r camau tuag at greu Oriau Tawel wrth siopa yn digwydd ledled y DU, er mwyn helpu cwsmeriaid sydd ag anghenion synhwyraidd fel Awtistiaeth a chwsmeriaid eraill fel pobl oedrannus a phobl ag anableddau cudd. 

Ydych chi wedi ystyried ffurfioli Oriau Tawel?
Os ydych chi'n fusnes sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid, beth am gael oriau tawel ar ddiwrnod penodol er mwyn i chi fod yn fusnes mwy cynhwysol? Dyma amseroedd sy’n cael eu neilltuo, pan fydd staff yn fwy ymwybodol o gwsmeriaid sy'n cael anawsterau wrth siopa, a gellir addasu'r amgylcheddau ar gyfer yr awr honno er enghraifft:

  • Lleihau lefelau sŵn - sicrhau bod yr holl synau uchel arferol naill ai'n cael eu tawelu neu eu diffodd yn llwyr yn ystod y cyfnod hwn, fel bipiau tiliau a cherddoriaeth
  • Pylu'r goleuadau
  • Osgoi gwneud cyhoeddiadau dros yr uchelseinydd
  • Lleihau symudiad trolis a basgedi
  • Gosod poster y tu allan i ddweud wrth gwsmeriaid ei bod hi'n Awr Dawel

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy'r dolenni isod:

Cymdeithas Awtistiaeth: https://www.autism.org.uk/ 

https://www.autism.org.uk/what-we-do/news/the-entertainer-extends-its-autism-friendly-quiet 

Association of Convenience Stores:https://www.acs.org.uk/news/acs-new-guidance-retailers-legal-responsibility-disabled-customers

Awtistiaeth Cymru: https://autismwales.org/cy/ 

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynolhttps://www.equalityhumanrights.com/cy/advice-and-guidance/cyfrifoldeb-cyfreithiol-manwerthwyr-i-gwsmeriaid-anabl 

Cymdeithas Alzheimer: https://www.alzheimers.org.uk 

Purple Tuesday: https://purpletuesday.org.uk/ 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.