BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminar am ddim: Creu platfform yn arddull y Gemau Paralympaidd i dynnu sylw at entrepreneuriaid anabl a’u cefnogi

Mae entrepreneuriaid anabl yn llawer mwy tebygol o ddechrau eu busnesau eu hunain, oherwydd anhawster dod o hyd i swydd a all ddiwallu eu holl anghenion hygyrchedd, ac mae ymchwil gan Small Business Britain wedi datgelu y gall mynediad at gymorth gan gymheiriaid a hyder fod yn ddau rwystr anferth.

Yn ysbryd y Gemau Paralympaidd, mae d:Entrepreneur 

yn credu ei bod yn bwysig tynnu sylw at y perchnogion busnes hynny sydd ag anabledd a chreu platfform o esiamplau amlwg i annog ac ysbrydoli cyw entrepreneuriaid eraill fel y mae’r Gemau Paralympaidd yn ei wneud cystal.

Cynhelir y gweminar ar 25 Awst 2021 am 10am.

Cadwch eich lle drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol: Cofrestru ar gyfer y Gweminar - Zoom

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.