BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminar – Gwella cylcholdeb yn y sector plastigau

Datgarboneiddio yn y diwydiant pecynnu: Gwella cylcholdeb yn y sector plastigau 

Bydd y weminar hon yn archwilio sut gall y sector plastigau ddatgarboneiddio yn y dyfodol, a pha offer a all helpu hwyluso’r newid hwn. 

Yn ystod y weminar hon, bydd arbenigwyr yr Ymddiriedolaeth Garbon:

  • Yn trafod sut gall y sector plastigau ddatgarboneiddio yn y dyfodol, a sut gall offer arloesol helpu hwyluso’r newid hwn
  • Yn cyflwyno’r effaith bosibl y gall cynyddu cynnwys wedi’i ailgylchu, lleihau allyriadau mewn gweithgynhyrchu a seilwaith ailgylchu sefydlog gael ar allyriadau carbon o becynnu 
  • Yn archwilio’r pwysau cynyddol gan ddefnyddwyr, y gadwyn gyflenwi a buddsoddwyr i symud oddi wrth blastig pur
  • Yn esbonio symudiadau allweddol gan lywodraethau, fel trethiant a ffurfio Cytuniad y Cenhedloedd Unedig i atal llygredd plastig 

Mae’r weminar hon wedi’i thargedu at rolau cynaliadwyedd, caffael a dylunio pecynnau o fewn y sector pecynnu a manwerthu. Fe’i cynhelir ar 24 Mai 2022 rhwng 10am ac 11am.

Am fwy o wybodaeth ac i gadw’ch lle, ewch i Gweminar – Datgarboneiddio’r diwydiant pecynnu: Gwella cylcholdeb yn y sector plastigau | Yr Ymddiriedolaeth Garbon
 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.