BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminarau byr ar Hanfodion Eiddo Deallusol

Ydych chi’n gwybod sut i ddiogelu enw eich busnes, eich cynhyrchion, cynnwys eich gwefan a mwy?

Eich Eiddo Deallusol yw un o’ch asedau busnes pwysicaf ac mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) eisiau helpu busnesau ledled y Deyrnas Unedig i ddiogelu eu Heiddo Deallusol nhw a manteisio arno i’r eithaf. 

Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol yn cynnal gweminarau byr sy’n esbonio pob hawl Eiddo Deallusol a’r broses ymgeisio.

Y mis hwn, maen nhw’n cynnal gweminarau ar 26 Mai 2022, a gallwch gofrestru ar gyfer:

  • Dyluniadau, i gael gwybod beth yw’r gwahaniaeth rhwng dyluniadau cofrestredig ac anghofrestredig, a sut gallwch wneud cais i gofrestru’ch dyluniadau. Cofrestru (gotowebinar.com)
  • Hawlfraint. Mae hawlfraint yn hawl awtomatig sy’n amddiffyn llawer o fathau o waith gwreiddiol. Dysgwch ble mae gennych hawlfraint yn eich busnes a sut i’w gorfodi. Cofrestru (gotowebinar.com)

Dysgwch hanfodion diogelu a manteisio ar eich Eiddo Deallusol gydag arweiniad gan Fusnes Cymru Eiddo Deallusol | Arloesedd (llyw.cymru)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.