BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminarau Profi COVID-19 yn y Gweithle

Ar gyfer busnesau gyda 10 neu fwy o weithwyr

Bydd y gefnogaeth i brofion asymptomatig rheolaidd mewn gweithleoedd yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn canolbwyntio ar weithleoedd gyda mwy na 10 o weithwyr nad ydynt yn gallu gweithio gartref.

Dylid cyflwyno ymholiadau cychwynnol a datganiadau o ddiddordeb ar brofion yn y gweithle i fewnflwch Profion COVID-19 yn y gweithle: COVID19.ProfiYnYGweithle@llyw.cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o weminarau dros yr wythnosau nesaf i ddarparu trosolwg o’r cynnig sydd ar gael, a’r gofynion y bydd angen i chi eu bodloni i gymryd rhan ym Mhrofion Gweithle COVID-19. 

I gael rhagor o wybodaeth am fframwaith profion gweithle COVID-19, ewch i Llyw.Cymru 


Ar gyfer busnesau gyda llai na 10 o weithwyr

Cael prawf llif unffordd COVID-19 cyflym os nad oes gennych symptomau

Nid oes symptomau gan tua 1 o bob 3 o bobl sydd â’r coronafeirws. 

Mae’r bobl hynny nad ydynt yn gallu gweithio gartref yn gallu archebu profion COVID-19 cyflym (llif unffordd) ar-lein. Gall pobl archebu prawf o Cael profion llif unffordd COVID-19 cyflym os nad oes gennych symptomau

Mae hunan-brofion llif unffordd hefyd ar gael i’w casglu o safleoedd prawf penodol ledled Cymru. Mae manylion y safleoedd casglu a’r amseroedd agor i’w gweld yma.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.