Ymunwch â gweminarau byw diweddaraf Tŷ’r Cwmnïau i gael cyfarwyddyd cyflym a defnyddiol.

Mae’r gweminarau’n mynd i’r afael â nifer o bynciau, yn cynnwys:

  • sefydlu cwmni cyfyngedig a’ch cyfrifoldebau chi i Dŷ’r Cwmnïau a CThEM
  • sut y gall eiddo deallusol fel patentau, nodau masnach a hawlfraint effeithio ar eich busnes
  • canllawiau ar sefydlu Cwmni Buddiannau Cymunedol (CIC)
  • sut i gofrestru morgeisi cwmni ac arwystlon eraill yn Nhŷ’r Cwmnïau 
  • sut i adfer cwmni i’r gofrestr

Yn ystod y weminar, gallwch ofyn cwestiynau gan ddefnyddio’r blwch testun ar y sgrin. Bydd eu tîm o arbenigwr ar-lein yn gwneud eu gorau i ateb eich holl gwestiynau, neu byddant yn eich cyfeirio at ganllawiau defnyddiol.

Gwylio gweminarau blaenorol
Os na lwyddoch chi i weld un o’r gweminarau, gallwch wylio recordiad o’r cyflwyniad. 

Cofrestrwch i dderbyn hysbysiadau ar e-bost er mwyn cael gwybod am eu gweminarau byw diweddaraf.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.
 


 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen