BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwneud cais am y Grant ar Gyfer Darparwyr Gofal plant: coronafeirws

Gall darparwyr gofal plant, gan gynnwys gwarchodwyr plant, meithrinfeydd, cylchoedd meithrin, crèches a chlybiau y tu allan i’r ysgol wneud cais am hyd at £5,000 i fynd i’r afael ag incwm a gollwyd rhwng 1 Ebrill 2020 a 30 Mehefin 2020.

Rhaid i chi fod wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Ni allwch gael y grant os ydych wedi gwneud cais am gyllid i’r cynlluniau isod, neu os ydych wedi cael cyllid ganddynt:

  • Grantiau ardrethi busnes sy’n cael eu gweinyddu gan eich awdurdod lleol
  • y Gronfa Cadernid Economaidd (ERF)
  • Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig  (SEISS)
  • Cymorth Grant Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau Newydd
  • Cronfa Gwytnwch Trydydd Sector Cymru (WCVA)
  • Cynllun grant y Mudiad Meithrin

Gallwch wneud cais am y grant hyd yn oed os ydych wedi cael cyllid o dan y cynlluniau canlynol:

  • y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS)
  • y Cynnig Gofal Plant yng Nghymru
  • Cynllun Cymorth Gofal Plant yn sgil y Coronafeirws
  • Cyllid darpariaeth Feithrin y Cyfnod Sylfaen
  • Dechrau’n Deg

Gallwch wneud cais o 24 Awst 2020 i 31 Hydref 2020.

Ni fydd ceisiadau a ddaw i law ar ôl 31 Hydref 2020 yn cael eu hystyried.

Os ydych yn gymwys, cewch eich cyfeirio at wefan eich awdurdod lleol a fydd yn dweud wrthych sut i wneud cais yn eich ardal chi.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.