
Ydych chi’n 35 oed neu’n iau?
Ydych chi’n gweithio yn y diwydiant bwyd a diod?
Os mai ‘ydw’ yw eich ateb, pam na wnewch chi roi eich enw i lawr ar gyfer Gwobr Talent Newydd Orau 2018?
Hon yw pumed flwyddyn y gwobrau sy’n dangos y dalent orau a mwyaf disglair yn y sector bwyd a diod a gwasanaethau bwyd yn y DU.
Ymhlith yr enillwyr blaenorol mae ffermwyr, entrepreneuriaid, swyddogion gwerthu ac ymgynghorwyr adnoddau dynol.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn cynigion yw 24 Medi 2018.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan The Grocer.
Ewch i’r tudalennau Bwyd a Diod i gael llawer o gyngor a gwybodaeth ar gyfer eich busnes.