BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobr yr UE i Arloeswyr Benywaidd

Mae Gwobr yr UE i Arloeswyr Benywaidd yn dathlu'r entrepreneuriaid benywaidd y tu ôl i arloesiadau trawsnewidiol. Trwy wneud hynny, mae'r UE yn ceisio codi ymwybyddiaeth o'r angen am fwy o arloeswyr benywaidd a chreu modelau rôl ar gyfer menywod a merched ym mhob man. 

Dyfernir y wobr i'r entrepreneuriaid benywaidd mwyaf talentog o bob rhan o'r UE a gwledydd sy'n gysylltiedig â  Horizon Europe, sydd wedi sefydlu cwmni llwyddiannus ac wedi cyflwyno arloesedd i'r farchnad. 

Mae gan y wobr ddau gategori:

  • Categori Arloeswyr Benywaidd
  • Categori Arloeswyr sy'n Dod i'r Amlwg

Mae'r wobr yn agored i:

  • Fenywod (mae'r wobr hon yn dathlu menywod yn eu holl amrywiaeth)
  • Y rheiny sydd wedi sefydlu mewn Aelod-wladwriaeth o'r UE neu Wlad sy’n Gysylltiedig â Horizon Europe
  • Y rheiny sydd wedi sefydlu cwmni arloesol a gofrestrwyd o leiaf 2 flynedd cyn y flwyddyn alw

Rhaid i'r rheiny sy'n gwneud cais am y categori Arloeswyr sy'n Dod i'r Amlwg fod o dan 35 oed. Nid oes terfyn oedran i wneud cais am y categori Arloeswyr Benywaidd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 18 Awst 2022.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i EU Prize for Women Innovators (europa.eu)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.