BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Bach y DU 2023

Ydych chi neu rywun rydych chi’n ei ‘nabod yn rhedeg busnes bach ysbrydoledig sy’n addas ar gyfer #TheSmallAwards. Os felly, ewch amdani i gystadlu yn 2023!

Bydd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth o ymgysylltu cadarn â’r gymuned gan fusnesau bach tra hefyd yn chwilio am berfformiad effeithiol fel busnes parhaus.

Dyma’r categorïau:

  • Arwr Stryd Fawr – y busnes stryd fawr gorau
  • Gwobr ‘Bricks and Clicks’ – busnes bach amlsianel gorau
  • Gwobr Etifeddiaeth – y busnes teuluol gorau
  • Hyrwyddwr Cadwyn Gyflenwi - y busnes B2B gorau
  • Y Busnes Newydd Gorau – (llai na 18 mis)
  • Y Seren Ddigidol – y busnes digidol yn unig gorau
  • 'Heart of Gold’ – y busnes sy’n cyfrannu fwyaf at y gymuned
  • ‘At Your Service’ – y busnes gwasanaeth bach gorau
  • ‘Sole to Sole’ – y perchennog busnes bach hunangyflogedig gorau
  • ‘Mission Impossible’ - y busnes menter gymdeithasol gorau
  • ‘Net Hero’ - y busnes sy'n dangos ymrwymiad i gynaliadwyedd amgylcheddol
  • Gwobr Busnes Bach y Flwyddyn – y busnes bach gorau – enillydd yr enillwyr

Mae’r gystadleuaeth yn cau am hanner nos ar 28 Chwefror 2023.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan The Small Awards UK
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.