Welsh Government

I gael cymorth neu gyngor busnes

03000 6 03000

Gwobrau Busnesau Newydd Cymru 2020

Bydd Gwobrau Busnesau Newydd Cymru yn cydnabod llwyddiannau’r unigolion anhygoel sydd wedi cael syniad gwych, wedi gweld y cyfle a chymryd y risgiau i lansio cynnyrch neu wasanaeth newydd. Yr entrepreneuriaid hyn a’u mentrau newydd yw arwyr tawel y gymuned fusnes. 

Dyma'r categorïau eleni:

  • busnes newydd y flwyddyn ym maes gwasanaethau busnes i fusnes
  • busnes newydd y flwyddyn – Caerdydd
  • busnes adeiladu newydd y flwyddyn
  • busnes newydd y flwyddyn ym maes gwasanaethau i ddefnyddwyr
  • busnes creadigol newydd y flwyddyn
  • busnes seiber newydd y flwyddyn
  • busnes digidol newydd y flwyddyn
  • busnes newydd y flwyddyn ym maes gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
  • busnes FinTech newydd y flwyddyn
  • busnes bwyd a diod newydd y flwyddyn
  • busnes byd-eang newydd y flwyddyn
  • busnes newydd y flwyddyn gan fyfyriwr graddedig
  • busnes gwyrdd newydd y flwyddyn
  • busnes arloesol newydd y flwyddyn
  • busnes gweithgynhyrchu newydd y flwyddyn
  • busnes Medtech newydd y flwyddyn
  • busnes newydd y flwyddyn ym maes technolegau symudol a newydd
  • busnes newydd y flwyddyn ym maes manwerthu
  • busnes gwledig newydd y flwyddyn
  • menter gymdeithasol newydd y flwyddyn
  • busnes twristiaeth a hamdden newydd y flwyddyn
  • busnes newydd y flwyddyn yn y cymoedd
  • entrepreneur ifanc y flwyddyn
  • gwobr sêr newydd

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 27 Mawrth 2020.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Gwobrau Busnesau Newydd Cymru.

Os ydych chi’n ystyried dechrau busnes, ewch i wefan Dechrau a Chynllunio Busnes Busnes Cymru am gyngor a chymorth.

Share this page: 
Region: 
Conversion pixel